Mae arolwg barn newydd yn awgrymu bod yr argyfwng ffoaduriaid yn cyfrannu ag gynnydd mewn agweddau negyddol tuag at yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl yr arolwg gan gwmni Survation yn y Mail on Sunday heddiw, byddai mwyafrif bach – o 51% i 49% – o bobl Prydain yn pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd ‘ pe bai’r refferendwm yfory’.

Mae’r canlyniadau hyn yn groes i gyfres o arolygon diweddar sy’n dangos mwyafrifoedd clir o blaid i Brydain aros i mewn.

Er mai un arolwg yw hwn, mae’n debygol o beri pryder i’r Prif Weinidog sydd wedi ymrwymo cynnal refferendwm cyn diwedd 2017. Mae’n sicr hefyd o fod yn hwb Brydeinwyr gwrth-Ewropeaidd.

Canfyddiad arwyddocaol arall yn yr arolwg oedd y gallai’r mwyafrif dros adael gynyddu os bydd yr argyfwng ffoaduriaid yn mynd yn waeth. Dywedodd 22% o’r rheini a fyddai’n pleidleisio dros aros i mewn, y gallen nhw newid eu meddwl petai’r sefyllfa’n dirywio.