Mae golygfeydd fel y rhain o ffoaduriaid yn Hwngari yr wythnos ddiwethaf wedi arwain ar alwadau cynyddol am ymosodiadau milwrol ar Syria (llun: PA)
Wrth i’r argyfwng ffoaduriaid waethygu, mae’r Prif Weinidog David Cameron o dan bwysau i orchymyn ymosodiadau o’r awyr ar Syria yn erbyn gwrthryfelwyr IS.

Yn ogystal ag Aelodau Seneddol Torïaidd, mae cyn-archesgob Caergaint, yr Arglwydd Carey, hefyd yn galw am weithredu milwrol o’r fath.

“Nid digon yn fy marn i yw anfon cymorth i wersylloedd ffoaduriaid yn y Dwyrain Canol,” meddai, mewn erthygl yn y Sunday Telegraph.

“Yn hytrach, dylai fod ymdrechion milwrol a diplomyddol o’r newydd i ddifa Islamic State ac al-Qaeda unwaith ac am byth.

“Gall hyn olygu ymosodiadau o’r awyr a chymorth milwrol arall o Brydain i greu noddfeydd diogel.”

Mae’r Canghellor George Osborne hefyd wedi awgrymu bod angen cynllun cynhwysfawr i fynd i’r afael â’r argyfwng ffoaduriaid ‘yn ei wraidd’.

Dywed David Cameron, fodd bynnag, na fyddai’n gorchymyn ymosodiadau o’r awyr ar Syria heb fod consensws aml-bleidiol ar y mater yn y Senedd.

Gyda rhagolygon cynyddol mai Jeremy Corbyn fydd yn arwain y Blaid Lafur o’r wythnos nesaf ymlaen, byddai consensws o’r fath yn annhebygol iawn.