Daeth cadarnhad mai corff dyn 64 oed o Leeds gafodd ei ddarganfod yn Eryri brynhawn dydd Gwener.

Roedd Stephen Longfellow wedi bod ar goll ers dydd Sul diwethaf wedi iddo fod yn cerdded yn yr ardal.

Cafodd ei weld ddiwethaf yn sgwrsio efo pobol yn Llanfihangel y Pennant.

Roedd ei gar eisoes wedi cael ei ddarganfod ger mynydd Tryfan.

Mae’r crwner wedi cael gwybod.