Roedd hyfforddwr Israel, Eli Guttman a’r capten Tal Ben Haim I yn hyderus iawn wrth siariad gyda’r wasg nos Sadwrn cyn eu gornest enfawr nhw yn erbyn Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos yfory.
Ychydig mwy na phum mis aeth heibio ers i Gymru ennill yn gyffyrddus yn Haifa o 3-0, ond serch y ffordd y collon nhw, mae hyfforddwr Israel yn dweud ei fod e a’i garfan wedi dysgu eu gwersi.
“Dw i ddim yn credu nad oedden ni’n barod y tro diwethaf, serch y canlyniad, ac rydym wedi paratoi ar gyfer y gêm hon…
“Rydym yn canolbwyntio ac yn barod i chwarae’r gêm. Bydd yn bwysig iawn i gael pwyntiau yfory. Os ydym yn gwneud yr hyn yr oeddem yn bwriadu a’r hyn rydw i wedi hyfforddi’r garfan i’w wneud, yna gallwn gael pwyntiau.”
Dim parti tro yma
Oherwydd y posibilrwydd o gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 os ydy Cymru’n ennill yfory yn erbyn Israel, mae paratoadau wedi cael eu gwneud eisoes ar gyfer y dathliadau.
Mae gan gapten Israel, Tal Ben Haim I ddigon o hyder yng nghynllun y tîm ar gyfer y gêm, ac ychwanegodd nad yw’n hoffi partïon, a’i fod e a’i dîm am wneud eu gorau yfory i wneud yn siwr nad oes gan Gymru rywbeth i’w ddathlu.
“Rydym am chwarae ein gêm, rydym am wneud yr hyn rydym am ei wneud beth bynnag sy’n digwydd yma i ni. Daethon ni’n barod yn gorfforol ac yn barod ar gyfer y gêm, mae gennym gynllun gêm ac mae gan bob chwaraewr ei waith ei hun.
“Pan fyddwn yn mynd allan ar y cae, gwaith y chwaraewyr yw gweithredu’r cynllun sydd gyda ni.
“Rydym yn mynd i roi o’n gorau, rydym yn gwybod bod y Cymry yn chwarae pêl-droed da, gallwch weld hynny’n amlwg o’u canlyniadau, dydy e ddim yn syndod, ond mae’n rhaid i ni fod yn dîm anodd i’w guro ac rydym yn gobeithio oherwydd hynny y bydd rhaid i’r Cymry ffeindio amser arall i ddathlu.”
Haeddu cyraedd Ffrainc
Mae’r ornest yfory yn enfawr i’r ddau dîm.
Fel y dywedodd Chris Coleman yn gynharach heddiw, mae gan Israel dipyn o hyd i chwarae amdano, ac mae’n realistig y gallan nhw gyrraedd y gemau ail gyfle os ydyn nhw’n gorffen yn gryf.
Yn debyg i Coleman, roedd hyfforddwr a chapten Israel yn llawn canmoliaeth i Gymru, gan ddweud bod eu meddylfryd nhw wedi bod yn allweddol i’w llwyddiant.
“Rwy’n meddwl bod Cymru’n dîm llwyddiannus iawn, maen nhw’n canolbwyntio ar bob gêm yn ei thro, sydd yn gryfder mawr ganddyn nhw, ond rydym yn barod, wnaethon ni gymryd Andorra o ddifrif ddydd Iau ac rydym am wneud yr un peth gyda’r gêm hon,” meddai Guttman.
Mae Ben Haim I wedi ychwanegu ei enw at y rhestr hir o bobol sydd wedi canmol Gareth Bale, wrth iddo gael dweud ei ddweud am seren Cymru.
“Mae Bale yn chwaraewr anhygoel, wrth gwrs. Er mwyn i ni lwyddo, mae’n rhaid i ni fod yn fwy cadarn yn y cefn, ac mae ganddyn nhw dueddiad yng nghanol cae i gymryd rhan yn yr ymdrech amddiffynol hefyd.
“Rwy’n credu hyd yn hyn fod Cymru wedi chwarae pêl-droed dda ac nid yw’r tabl yn dweud celwydd. Felly ydyn, maen nhw’n haeddu cyrraedd Ffrainc ar sail yr hyn maen nhw wedi’i wneud hyd yn hyn.”
Stori: Jamie Thomas