Cymru 23–19 Yr Eidal
Ennill oedd hanes Cymru wrth iddynt groesawu’r Eidal i Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn yn eu gêm baratoadol olaf cyn Cwpan y Byd, ond tynnodd anafiadau gwael i chwaraewyr pwysig y sglein oddi ar y canlyniad.
Cafodd Rhys Webb a Leigh Halfpenny eu cario oddi ar y cae gydag anafiadau gwael iawn yr olwg bythefnos yn unig cyn i’r gystadleuaeth ddechrau. Achos pryder arall i Gymru fydd y ffaith nad oedd hwn yn berfformiad da iawn chwaith a bu rhaid iddynt ddibynnu ar giciau cosb i lorio’r Eidalwyr
Roeddynt ar ei hôl hi wedi dim ond dau funud wrth i Leonardo Sarto dirio yn dilyn rhediad hir Sergio Parisse, ac er i Tommaso Allan fethu’r trosiad fe lwyddodd gyda chic gosb yn fuan wedyn i roi ei dîm wyth pwynt ar y blaen.
Tarodd Cymru nôl gyda chais i George North o bas wych Scott Williams a chic gosb o droed Halfpenny.
Bu oedi hir wedi hynny oherwydd anaf Webb cyn i Allan adfer mantais yr ymwelyr cyn yr egwyl.
Ciciodd Halfpenny bedair cic gosb arall yn yr ail hanner cyn iddo yntau gael ei gludo oddi ar y cae hefyd.
Ychwanegodd Dan Biggar dri phwynt arall cyn y diwedd ond gorffennodd yr Eidal y gêm gyda chais arall wrth i Guglielmo Palazzani groesi yn y gornel.
23-19 y sgôr terfynol felly, canlyniad cadarnhaol ond gêm siomedig am amrywiol resymau i Gymru.
.
Cymru
Cais: George North 12’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 29’, 48’, 63’, 67’, 69’, Dan Biggar 75’
.
Yr Eidal
Ceisiau: Leonardo Sarto 2’, Guglielmo Palazzani 80’
Ciciau Cosb: Tommaso Allan 9’, 32’
Gôl Adlam: Carlo Canna 64’