Roedd capten Cymru, Ashley Williams mewn hwyliau da y bore ma cyn y gêm fawr yn erbyn Israel yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos yfory.
Dywedodd Williams fod y gystadleuaeth rhwng Cymru ac Israel yn un o’r gemau mwyaf y mae e erioed wedi bod yn rhan ohoni.
Ar ôl gêm gorfforol iawn yng Nghyprus nos Iau, mae’r amser i ymadfer ac ymlacio wedi bod yn brin iawn rhwng y ddwy gêm.
Ychwanegodd Williams ei fod o’n benderfynol fod y tîm wedi cael y sylw meddygol gorau ac wedi paratoi’n llawn ar gyfer y gêm ar nos Sul.
“Rydym wedi cael ychydig o amser i ymlacio, rydym am gael sesiwn hyfforddi bore yma yn gweithio drwy ychydig o bethau ac rwy’n siŵr y byddwn yn barod erbyn y gêm nos fory.”
“Fel chwaraewyr y dasg cyn gêm enfawr fel hon yw canolbwyntio, yn enwedig heddiw ac yfory, ond dim ond un gêm yw hi, naw deg munud o ganolbwyntio’n unig sydd ei angen, a rhaid i ni gadw ffocws ar yr hyn sydd angen ei wneud.”
Balchder ynghylch llwyddiannau
O feddwl pa mor bell mae’r garfan wedi dod o dan arweiniad Chris Coleman, mae canmoliaeth wedi bod i’w waith dros y tair blynedd diwethaf.
Dywedodd Williams ei fod yn falch iawn o’r siwrnai y bu ef a’r garfan arni hefo Coleman a’i fod yn teimlo mai’r chwaraewyr oedd yn gadael Coleman i lawr ar ddechrau ei gyfnod fel hyfforddwr, ac nid fel arall.
“Rwy’n credu ei fod yn gwneud yr un pethau, dwi wedi dweud erioed pan nad oeddem yn ennill ein bod I’n teimlo ein bod ni’n gadael iddo fo i lawr oherwydd ei fod yn ein paratoi’n dda, roeddem ni gyd yn ffit, roeddwn yn gwybod y cynllun gêm, ond roeddwn ni ddim yn chyflawni be oedd o’n eisio gennyn ni.
“Mae’n dal i wneud yr un pethau, felly dydy e ddim wedi newid. Rwy’n meddwl fel grŵp ein bod ni wedi tyfu yn nes ato drwy gydol yr ymgyrch hon. Rydym yn ei nabod e’n well. Rydym yn ei ddeall e llawer mwy ac mae e’n ein deall ni.”
“Mae bob un o’r chwaraewyr wedi datblygu perthynas dda gydag e ac rydym yn falch drosto fe yn fwy na neb arall oherwydd mae e wedi bod yn sylweddol i’r llwyddiant rydyn ni wedi’i gael.”
Rheoli emosiynau
Ar ôl holl fethiannu Cymru yn eu hanes, gall fod yn gyfnod emosiynol i’r garfan oherwydd eu bod nhw mor agos at greu hanes.
Dywedodd Williams y byddai e a’i gyd-chwaraewyr yn aros gyda’i gilydd am y gem enfawr sydd i ddod:
“Mae angen i ni geisio rheoli ein hemosiynau, trin hon fel un gêm arall rydym yn ceisio ei hennill. Rydym yn gwybod sut i wneud hynny, rydym ni wedi ei wneud e’n gyson hyd yn hyn – mae llawer yn digwydd o’n cwmpas ni, mae pawb yn siarad ac yn edrych ymlaen ac rydym yn ymwybodol o hynny.
“Ond rydym yn gwybod ein bod ni’n grŵp o chwaraewyr sydd yn gallu ennill. Rydym ni bob amser yn dod i mewn, yn gweithio’n galed ac yn dangos yr agwedd iawn.
“Dros yr ychydig o gemau diwethaf rydym wedi dod i arfer gyda’r disgwyliadau ryw ychydig ac fe fydd rhaid i ni ddelio gydag e eto’r tro yma.”
Stori: Jamie Thomas