Lincoln 1–1 Wrecsam
Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Wrecsam ymweld â Sincil Bank i herio Lincoln yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe roddodd James Gray yr ymwelwyr o ogledd Cymru ar y blaen gyda pheniad wedi deg munud o’r ail hanner.
Roedd Matt Rhead eisoes wedi taro’r trawst gydag un ymgais pan unionodd y sgôr gyda pheniad ugain munud o’r diwedd.
Cafodd y ddau dîm gyfleoedd da i’w hennill hi yn y chwarter awr olaf ond aros yn gyfartal wnaeth hi tan y diwedd.
Mae’r Dreigiau yn llithro dau le i’r pedwerydd safle yn y tabl o ganlyniad i’r gêm gyfartal.
.
Lincoln
Tîm: Farman, Wood, Bush, Stanley, Beevers, Waterfall, Muldoon, Sparrow, Hawkridge, Rhead, Hearn (Simmons 42′)
Gôl: Rhead 70’
Cerdyn Melyn: Sparrow 50′
.
Wrecsam
Tîm: Belford, Vidal (Hudson 78′), Smith, Moke (Jackson 77′), Newton, Fyfield, Jennings, Evans, York, Gray (Fowler 68′) , Vose
Gôl: Gray 55’
Cerdyn Melyn: Fyfield 64′
.
Torf: 2,268