Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth llanc 17 oed a gafodd ei drywanu i farwolaeth yn nwyrain Llundain neithiwr.

Dyma’r ail achos o drywanu llanc i farwolaeth yn Llundain yn y deuddydd diwethaf.

Cafodd y llanc ei ddarganfod gan yr heddlu ag anafiadau yn Hoxton yn ardal Hackney neithiwr, yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.

Fe fu farw cyn i ambiwlans ei gyrraedd am 11.47yh.

Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn, ac mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n gwybod pwy yw’r llanc fu farw.

Nos Iau, cafodd Shaquan Mario Fearon, 17, ei drywanu i farwolaeth yn Brockley yn ne-ddwyrain Llundain.