Mae 13 o bobol wedi cael eu saethu’n farw yn un o ardaloedd heddychlon gogledd Afghanistan.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraethwr talaith Balkh fod “o leiaf 13 o bobol” wedi’u lladd gan ddyn arfog.
Roedd y dyn arfog wedi stopio cerbydau roedd yr 13 yn teithio ynddynt, meddai, wrth iddyn nhw deithio drwy ardal Zareh.
Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad.