Fe fydd Cymru’n herio’r Eidal yn Stadiwm y Mileniwm y prynhawn yma yn eu gêm baratoadol olaf cyn dechrau Cwpan Rygbi’r Byd.
Mae’r prif hyfforddwr wedi gwneud pump o newidiadau i’r tîm a gurodd Iwerddon o 16-10 yn Nulyn.
Mae’r capten Sam Warburton yn dychwelyd i’r pac am y tro cyntaf ers mis Mai.
Daw James King i mewn yn flaenasgellwr, ac mae partneriaeth newydd rhwng Jake Ball a Dominic Day yn yr ail reng.
Corey Allen sy’n dechrau yn y canol.
Yn y cyfamser, mae’r Eidal wedi gwneud saith newid i’r tîm a gollodd o 48-7 yn erbyn yr Alban yr wythnos diwethaf.
Mae newyddion da i’r Eidal wrth i Sergio Parisse ddychwelyd, ynghyd â’r prop Michele Rizzo a’r clo Quintin Geldenhuys.
Yn dychwelyd hefyd mae’r cefnwr Andrea Masi, yr asgellwr Giovanbattista Venditti, y canolwr Gonzalo Garcia a’r mewnwr Edoardo Gori.
Mae’r gic gyntaf am 5 o’r gloch.
Cymru: L Halfpenny, A Cuthbert, C Allen, S Williams, G North, D Biggar, R Webb, G Jenkins, K Owens, T Francis, J Ball, D Day, J King, T Faletau, S Warburton (capten). Eilyddion: K Dacey, P James, A Jarvis, L Charteris, R Moriarty, G Davies, R Priestland, M Morgan.
Yr Eidal: A Masi, L Sarto, L Morisi, G Garcia, G Venditti, T Allan, E Gori, M Rizzo, L Ghiraldini, M Castrogiovanni, Q Geldenhuys, J Furno, A Zanni, S Parisse (capten), F Minto. Eilyddion: A Manici, M Aguero, L Cittadini, V Bernabo’, S Vunisa, G Palazzini, C Canna, L McLean.