Colli yn y munudau olaf o 29-23 wnaeth y Dreigiau yn erbyn Connacht ar noson agoriadol y PRO12 neithiwr.

Cafodd tynged y Cymry ei selio wrth i’r eilydd Fionn Carr groesi am gais hwyr i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Ond fe lwyddon nhw i gipio pwynt bonws oddi ar gic ola’r ornest wrth i Tom Prydie gicio cic gosb.

Roedd y Gwyddelod 14-3 ar y blaen ar yr hanner diolch i gais gan y blaenasgellwr Nepia Fox-Matamua a thair cic gosb gan Jack Carty.

Ond daeth cais cynnar i’r Dreigiau’n gynnar yn yr ail hanner wrth i’r mewnwr Sarel Pretorius groesi ar ei ymddangosiad cyntaf i’r rhanbarth.

Daeth cais i Connacht gan Danie Poolman a chic gosb arall i Carty, ac roedd Connacht wedi rheoli’r rhan fwyaf o’r ail hanner er gwaethaf cic gosb gan Jason Tovey a chais gan James Thomas cyn y diwedd.