Colli o 28-6 oedd hanes y Gweilch ar noson agoriadol y PRO12 yn erbyn Ulster yn Belfast.

Aeth y Gwyddelod ar y blaen wedi chwech o funudau wrth i’r capten Rob Herring groesi am gais cynta’r ornest yn dilyn ymosodiad cryf gan y blaenwyr.

Methodd Stuart McCloskey gyda’r trosiad, ond fe giciodd e gic gosb ychydig funudau’n ddiweddarach i ymestyn eu mantais.

Daeth ymateb cynta’r Gweilch wrth i Sam Davis gicio cic gosb wedi i Wiehahn Hersbt chwalu sgrym cynta’r noson.

Ond daeth ail gais i ddynion Ulster yn fuan wedyn wrth i Andrew Trimble redeg o’i linell deg metr ei hun cyn i McCloskey dorri drwodd a chroesi’r llinell gais cyn trosi’i gais ei hun i roi mantais o 12 pwynt i’r Gwyddelod.

Daeth cyfle hwyr i’r Gweilch am driphwynt yn yr hanner cyntaf, a hynny oddi ar gic gosb gan Sam Davies yn dilyn tacl yn yr awyr ar Joe Bearman yn y lein.

Naw pwynt o fantais oedd gan Ulster erbyn yr egwyl, ac fe fethodd Sam Davies gyda chic gosb gynnar wedi’r egwyl o’r hanner.

Gwnaeth Ulster ymestyn eu mantais funudau’n ddiweddarach wrth i Gareth Delve gael ei gosbi am chwarae ar y llawr, ac fe sgoriodd McCloskey y gic gosb.

Daeth trydydd cais Ulster yn fuan wedyn, wrth iddyn nhw fanteisio ar feddiant o’r lein. Cafodd Nick Williams ei daclo wrth linell gais y Gweilch, ond fe groesodd Herbst cyn i McCloskey fethu’r trosiad.

Gyda’r sgôr yn 23-6, cafodd Bearman ei anfon i’r cell cosb am dacl beryglus ar Luke Marshall ac roedd rhagor o newyddion drwg i’r Gweilch wrth i’r canolwr Ashley Beck adael y cae gydag anaf yn dilyn tacl uchel gan Trimble.

Daeth y Gweilch o fewn trwch blewyn i sgorio’u cais cyntaf wedi ymadawiad Beck, ond fe gafodd Dan Baker a Nicky Smith ill dau eu taclo ger y llinell gais cyn i Baker fwrw’r bêl ymlaen.

Wrth i’r Gweilch chwilio’n daer am gais, arhosodd amddiffyn Ulster yn gryf ac fe lwyddon nhw i dorri’n rhydd o’u hanner eu hunain i sicrhau pedwerydd cais a phwynt bonws yn y funud olaf, diolch i gais gan Luke Marshall.

Ulster 28 Y Gweilch 6

Seren y gêm: Stuart McCloskey