Cyprus 0 – 1 Cymru
Roedd gôl gan Gareth Bale wedi 82 munud yn ddigon i gipio buddugoliaeth ardderchog i Gymru yng Nghyprus.
Sgoriodd seren Cymru a Real Madrid gyda pheniad grymus o groesiad Jazz Richards wrth i Gyprus flino tuag at ddiwedd y gêm.
Bydd Cymru felly’n sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Ewro 2016 gyda buddugoliaeth yn erbyn Israel yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sul.
Er mai Cymru oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf yn enwedig, nid oedd yn berfformiad gwych gan dîm Chris Coleman, ond roedd yn ddigon.
Ac mae’n siŵr mai dyna ydy rhinwedd mwyaf yr ymgyrch ragbrofol yma – maen nhw wedi gwneud digon, ac ennill pwyntiau mewn gemau y bydden nhw wedi colli yn y gorffennol. Mae ’na benderfynoldeb yn y garfan yma.
Hanner cynta’
Cyprus ddechreuodd y gêm orau yn y munudau cyntaf, ac fe wnaethon nhw fygwth trwy’r hanner cyntaf gyda’r ymosodwr Mytidis yn arbennig yn creu problem i amddiffyn Cymru.
Er hynny, cafodd Cymru fwy o gyfleoedd clir, ac fe ddylai Neil Taylor fod wedi sgorio wedi dim ond 9 munud.
Ergydiodd Bale yn isel o gic rydd o 40 llath, a methodd Giorgallides yn y gôl â dal y bêl – yn hytrach adlamodd yn syth i Taylor rhyw 8 llath o’r gôl, ond ergydiodd yn amddiffynnwr yn syth at y golwr.
Aeth Ramsey’n agos bedair munud ynghynt hefyd, yn crymanu dros y trawst ar ôl cyfuno’n dda gyda Bale.
Efallai y dylai Cymru fod yn arwain wedi 27 munud ar ôl i Dave Edwards rwydo gyda pheniad ardderchog o groesiad Gareth Bale , ond gwrthodwyd y gôl oherwydd trosedd gan Hal Robson-Kanu yn y cwrt. Penderfyniad hallt.
Roedd cyfle da arall i Ramsey’n hwyr yn yr hanner wedi rhediad cryf gan Robson-Kanu, ond methodd chwaraewr canol cae Arsenal â rheoli yn y cwrt gan wastraffu’r cyfle.
Roedd digon i roi hyder i Gymru ar gyfer yr ail hanner, ond roedd Cyprus hefyd wedi peri rhai problemau.
Ail hanner blêr
Digon blêr oedd hi yn yr ail hanner, a Chymru’n methu sefydlu strwythr i’w gêm.
Roedd Cyprus yn dal i fygwth, ac ar adegau roedd amddiffyn Cymru’n edrych ar chwâl – roedd y capten Ashley Williams yn ffodus iawn i beidio cael ei gosbi ar un achlysur o’r fath wedi tacl flêr ar ymyl y cwrt.
Nid hon oedd y gêm orau i sêr Cymru, a gellir dadlau mai rhai o’r chwaraewyr mwy ymylol – pobl fel Jazz Richards a Dave Edwards oedd perfformwyr gorau Cymru ar y noson.
Er hynny, roedd Ramsey a Bale yn amlwg, a bob amser yn fygythiad ac wrth i’r tîm cartref ddechrau blino roedd Gareth Bale yn dechrau bygwth gyda’i rediadau nodweddiadol.
Ond nid oedd ei gôl yn un nodweddiadol. Wrth i Gymru ddechrau pwyso a chodi’r tempo, cafodd Jazz Richards amser a lle i groesi o’i asgell dde.
Mae Richards wedi dechrau profi ei werth i’r tîm wedi perfformiad ardderchog yn erbyn Gwlad Belg, a gêm arall dda iawn heno.
Roedd ei groesiad i Bale yn un perffaith, ond roedd tipyn o waith gan Bale i’w wneud wrth iddo godi’n uwch na’r amddiffynwr i benio’n rymus i do’r rhwyd.
Yr union beth oedd angen ar Gymru gyda llai na deng munud yn weddill, a doedd dim gobaith i’r tîm cartref blinedig gipio gôl.
Gareth Bale yr arwr unwaith eto felly, a bydd pob un o gefnogwyr Cymru’n gobeithio gall seren mawr Cymru sicrhau lle i’r tîm yn Ewro 2016 gyda gôl fuddugol arall yn erbyn Israel nos Sul.
Tîm Cymru: Hennessey; Gunter; Williams; Davies; Taylor; Richards; Edwards; King; Ramsey (MacDonald 93′); Robson-Kanu (Vokes 68′); Bale (Church 90′)
Tîm Cyprus: Giorgallides; Dossa Júnior; Demetriou; Antoniades; Laifis; Economides; Charalambides (Englezou 75′); Makridis (Sotiriou 84′); Nikolaou; Mytidis (Kolokoudias 65′)