Mae dau lanc wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio llanc 17 oed yn dilyn ffrwgwd yn ne-ddwyrain Llundain.
Cafodd y llanciau 15 ac 16 oed eu harestio neithiwr, ac maen nhw’n parhau yn y ddalfa.
Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau o ffrwgwd mewn bloc o fflatiau yn Brockley nos Iau, a daethon nhw o hyd i ddau lanc wedi’u hanafu.
Bu farw’r llanc, sydd wedi’i enwi’n lleol fel Shaquan Mario Fearon, yn fuan wedi iddo gyrraedd yr ysbyty.
Yn dilyn archwiliad post-mortem, daeth i’r amlwg ei fod wedi marw wedi iddo gael ei drywanu yn ei goes.
Mae’r heddlu wedi apelio am dystion.