Mae’r heddlu sy’n chwilio am ddyn 64 oed o Leeds wedi dod o hyd i gorff yn Eryri.
Dydy Stephen Longfellow ddim wedi cael ei weld ers Awst 30 pan oedd yn sgwrsio efo cerddwyr yn Llanfihangel y Pennant.
Daeth yr heddlu o hyd i’w gar ger mynydd Tryfan yn ddiweddarach.
Mae’r crwner wedi cael gwybod.