Fe allai llythyr a gafodd ei ysgrifennu gan y bardd Dylan Thomas gael ei werthu am hyd at £2,500 yn ystod arwerthiant yng Nghaerdydd heddiw.

Cafodd y llythyr ei ysgrifennu ar bapur Basildon Bond ac mae cyfeiriad y bardd yn y Boat Shed yn Nhalacharn wedi’i nodi ar y dudalen.

Cafodd y llythyr ei ysgrifennu at y cyn-brif arolygydd ysgolion, Wynne Lloyd, ac mae’n mynegi dicter y bardd am na chafodd ei dalu am ddigwyddiad ym Mangor.

Mae’n ymddangos bod y llythyr wedi’i ysgrifennu 15 mis cyn marwolaeth y bardd o Abertawe yn 1953.

Mae’r Arwerthiant Cymreig yn cael ei gynnal bedair gwaith y flwyddyn gan gwmni Rogers Jones & Co.