Maureen Baker
Mae agor meddygfeydd saith diwrnod yr wythnos yn “afrealistig” oherwydd yr argyfwng wrth recriwtio meddygon, yn ôl meddygon teulu.

Mae un o bob 10 o swyddi meddygon teulu’n wag, yn ôl ymchwil gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu, sy’n galw ar Lywodraeth Prydain i ganolbwyntio ar wella gwasanaethau presennol yn hytrach na cheisio ehangu oriau.

Mae Llywodraeth Prydain wedi addo y bydd gan y cyhoedd fynediad i feddyg teulu saith diwrnod yr wythnos erbyn 2020, ac fe fyddai angen recriwtio 5,000 o feddygon ychwanegol er mwyn gwireddu’r addewid.

Dywedodd cadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, Dr Maureen Baker: “Rydyn ni mewn dyfroedd dyfnion os nad ydyn ni’n ymateb i’r argyfwng meddygon teulu ar unwaith gan sicrhau bod digon o feddygon teulu yn y system fel nad oes angen i feddygfeydd redeg gyda nifer sylweddol o swyddi gwag.

“Mae ein hymchwil newydd yn pwysleisio pa mor anodd mae meddygfeydd yn ei chael hi i recriwtio meddygon newydd a chadw meddygon presennol.

“Yn syml, mae’n afrealistig i feddwl am weithio saith diwrnod pan fo’r gwasanaeth pum niwrnod presennol a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol o dan gymaint o bwysau.”

Dywed yr ymchwil fod 10.2% o swyddi meddygon teulu’n wag, tra bod 61% o swyddi wedi’u llenwi gan feddygon dros dro neu staff o asiantaethau.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd San Steffan: “Mae cleifion am gael gweld meddygon teulu yn y nos ac ar benwythnosau.

“Eisoes, mae 2,500 o feddygfeydd yn gweithio tuag at hyn ac maen nhw’n deall nad ydyn ni’n gofyn i feddygon teulu unigol weithio saith diwrnod yr wythnos – mater o feddygfeydd yn cydweithio i ddarparu’r gwasanaeth hwn yw hi.”