Mae chwaraewr trombôn y band ska ‘The Specials’, Rico Rodriguez wedi marw’n 80 oed.

Roedd Rodriguez yn gerddor ska a reggae, ac fe chwaraeodd ar drac y band, ‘A Message to You Rudy’ yn 1979.

Cafodd ei eni yng Nghiwba a’i fagu yn Jamaica cyn symud i Loegr.

Roedd hefyd yn perfformio ar ei ben ei hun, ac yn ei fand ei hun, ‘Rico and the Rudies’.

Yn ystod ei yrfa, fe gydweithiodd â Prince Buster a Karl Pitterson.

Derbyniodd MBE yn 2007 am ei wasanaeth i’r byd cerddoriaeth.