Ni fydd yr Almaen yn atal unrhyw ffoaduriaid rhag ceisio lloches, yn ôl y Canghellor Angela Merkel.
Mae miloedd o bobol ar eu ffordd i’r Almaen ac Awstria wedi iddyn nhw adael Hwngari.
Yn ddiweddar, roedd awdurdodau’r Almaen wedi darogan y byddai 800,000 o ffoaduriaid – y rhan fwyaf o Syria, Irac ac Eritrea – yn cyrraedd erbyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd Angela Merkel wrth y wasg: “Nid oes gan yr hawl i loches wleidyddol derfyn ar y nifer o geiswyr lloches.
“Fel gwlad gref ac iach yn economaidd, mae gennym y nerth i wneud yr hyn sy’n angenrheidiol.”
Ond ychwanegodd na fyddai ceiswyr lloches sy’n ateb y gofynion yn cael aros yn yr Almaen.
Wrth i nifer y ffoaduriaid sy’n cyrraedd yr Almaen gyrraedd bob mis, mae pwysau cynyddol ar y llywodraeth i ddod o hyd i gartrefi ar eu cyfer.
Ond dywedodd Angela Merkel nad yw’r llywodraeth yn bwriadu cynyddu trethi er mwyn ymdrin â’r costau ychwanegol.
Mae disgwyl i lywodraeth yr Almaen gyfarfod ddydd Sul i drafod y sefyllfa.
Mae Angela Merkel wedi galw ar wledydd eraill yn Ewrop i newid eu safbwynt ar dderbyn ffoaduriaid, ac i greu canolfannau arbennig i’w croesawu tra bod yr awdurdodau’n prosesu ceisiadau am loches.
“Dim ond trwy wneud hyn y gall asiantaethau diogelwch wirio a oes ganddyn nhw wybodaeth am bobol benodol,” meddai.