Mae pedwar o bobol o Gymru wedi cael eu hanafu’n ddifrifol, a 41 wedi’u hanafu i gyd, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws a sawl lori yn y Swistir.
Roedd cwmni Edwards Coaches o Bontypridd yn cludo teithwyr i Gymru o’r Eidal pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y bws a phedwar lori yn Lucerne.
Cafodd 20 ambiwlans eu galw yn dilyn y digwyddiad toc wedi 12 o’r gloch brynhawn ddoe.
Mae lle i gredu bod tryc yn troi i mewn i safle adeiladu pan darodd lori yn ei erbyn a tharo’r bws.
Mae ymchwiliad ar y gweill.
Dywedodd perchennog Edwards Coaches, Jason Edwards wrth Golwg360 fod y criw yn dychwelyd i Gymru o’r Eidal pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Ni chafodd unrhyw un anafiadau a fyddai’n peryglu eu bywydau, meddai.