Mae penaethiaid cynghorau lleol wedi dweud eu bod nhw’n barod i gynnig lloches i ffoaduriaid pe bai llywodraeth Prydain yn croesawu miloedd o bobol o Syria.

Ond maen nhw wedi rhybuddio’r Prif Weinidog David Cameron fod rhaid iddo sicrhau bod adnoddau digonol ar gael i’w cefnogi pe baen nhw’n cael aros.

Cyhoeddodd Cameron ddydd Gwener y byddai’n barod i groesawu “miloedd yn rhagor” o ffoaduriaid o Syria a gwledydd cyfagos.

Dywed Yvette Cooper, un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur fod 40 o gynghorau wedi ymateb iddi gan ddweud y bydden nhw’n rhoi lloches i ffoaduriaid.

Ond mae’r Gymdeithas Lywodraeth Leol wedi rhybuddio bod arian mawr wedi cael ei wario eisoes ar gefnogi ffoaduriaid yng ngwledydd Prydain ac y byddai angen arian ychwanegol o du Whitehall.

Dywed y Gymdeithas Lywodraeth Leol fod cynghorau yn Lloegr eisoes yn derbyn 2,000 o blant i wledydd Prydain ar gost o £50,000 ar gyfer pob plentyn.

Mae £150 miliwn y flwyddyn yn rhagor yn cael ei wario ar deuluoedd sydd wedi methu yn eu ceisiadau am loches, meddai.

Mae Yvette Cooper wedi galw ar Lywodraeth Prydain i ymateb i barodrwydd y cynghorau i dderbyn ffoaduriaid.

Mae David Cameron wedi dweud y byddai Llywodraeth Prydain yn ymateb “gyda’n pennau a gyda’n calonnau”.