Bu farw dynes o Gymru wedi iddi gwympo oddi ar falconi ym Majorca.

Roedd Emma Evans o’r Alltwen ger Pontardawe ar ei gwyliau gyda’i theulu pan ddigwyddodd y ddamwain.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi cadarnhau bod dynes o wledydd Prydain wedi marw ddydd Iau, a dywedodd llefarydd eu bod nhw’n cynnig cymorth i’r teulu.

Mae Emma Evans a’i gŵr Martin yn adnabyddus yn yr ardal fel perchnogion cwmni tacsi a garej A&M.