Mae dyn 46 oed o Dreffynnon wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ar yr A55 ddydd Gwener.

Bu farw dyn yn y gwrthdrawiad ger Brychdyn, a chafodd dynes 80 oed ei chludo i’r ysbyty.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng lori, fan a char wedi achosi cryn oedi ar y ffordd ac i fysus Arriva.