Does dim digon o gefnogaeth i oedolion â salwch meddwl tra eu bod nhw’n cael eu cadw yn y ddalfa, yn ôl adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi.

Dydy bron i chwarter miliwn o oedolion â salwch meddwl ddim yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw gan oedolyn cyfrifol.

Mae data’r heddlu’n dangos bod galw am wasanaethau oedolyn cyfrifol mewn oddeutu 45,000 o achosion allan o 1.4 miliwn – er bod hyd at 280,000 o achosion yn ymwneud ag oedolion a chanddyn nhw salwch meddwl.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan y Rhwydwaith Oedolion Cyfrifol Cenedlaethol, a dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May bod y sefyllfa’n “annerbyniol”.