Harriet Harman
Mae Harriet Harman yn mynnu nad oes angen amau “hygrededd y bleidlais” yn dilyn trafodaeth heddiw gyda’r pedwar ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid.
Daw hyn yn dilyn pryderon y gallai pobol nad oedd yn aelodau nac yn gefnogwyr o’r blaid Lafur, fod wedi cofrestru i ddylanwadu ar y bleidlais i ddewis olynydd i Ed Miliband.
Mae 3,000 o bobol wedi’u rhwystro hyd yn hyn rhag pleidleisio yn yr etholiad am nad ydynt yn gymwys i wneud hynny.
Fe alwodd Harriet Harman, arweinydd dros dro’r blaid Lafur, am gyfarfod gyda’r pedwar ymgeisydd yn Stevenage heddiw i drafod y pryderon hyn.
Daeth y pedwar ymgeisydd ynghyd, sef Jeremy Corbyn, Andy Burnham, Yvette Cooper a Liz Kendall, a dywedodd Harriet Harman fod y trafodaethau wedi bod yn “ddefnyddiol” ond yn “arferol” hefyd.
Yn dilyn y cyfarfod, mynegodd ei bod hi’n “hyderus na fydd cwestiynau’n codi dros hygrededd y canlyniad, ac nad oes chwaith unrhyw seiliau ar gyfer heriau cyfreithiol”.
Ymateb yr ymgeiswyr
“Nonsens”, oedd y cyfan meddai Jeremy Corbyn, ac ni allai gredu fod pobol wedi cofrestru i dwyllo’r system yn unig.
“Rwy’n credu bod tipyn o nonsens yn y papurau”, meddai, ac aeth yn ei flaen i ddweud fod lle i ymfalchïo fod “600,000 o bobol newydd wedi ymuno neu gofrestru â’r blaid Lafur”.
Roedd e’n cydnabod fod yna rai Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi ceisio cofrestru, “ond eu bod nhw wedi’u gwrthod. A dyna ddiwedd y gân”, meddai.
Roedd Andy Burnham yn cydnabod fod yna “broblem”, ond fe wnaeth e gadarnhau na fyddai’n “mentro herio’r canlyniad” hyd yn oed pe bai’n colli “o drwch blewyn”.
Fe ddywedodd ei bod hi’n bwysig i “egluro’r mater fel ein bod ni’n medru symud ymlaen gyda’n gilydd pan ddaw hi’n 12 Medi”.
Roedd Yvette Cooper hefyd o’r farn nad oedd angen “canolbwyntio’n unig ar y drafodaeth am y broses o bleidleisio. Mae cymaint o syniadau mawr i’w trafod a chymaint o bobol ar ôl i bleidleisio”, meddai.
“Lleiafrif bychan”, oedd y rhai oedd wedi twyllo’r system, yn ôl Liz Kendall.
‘Munud olaf’
Dywedodd Harriet Harman eu bod nhw’n parhau i ganfod y bobol sydd wedi cofrestru i bleidleisio ond nad sy’n gymwys i wneud hynny, a “bydd hynny’n parhau hyd at y funud olaf,” meddai.
Mae’r blaid Lafur bellach wedi cyhoeddi fod gan 553,954 o bobol yr hawl i bleidleisio am arweinyddiaeth y blaid ar 12 Medi 2015.
Mae 292,973 o’r rheiny yn aelodau llawn i’r blaid.
Mae nifer y pleidleiswyr wedi codi tua 106,000 ers adeg yr etholiad cyffredinol yn ystod mis Mai.