Mae 19 o bobl wedi cael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl i gemegion ollwng mewn canolfan hamdden yn yr Alban.
Cafodd y gwasanaethau tân eu galw i Ganolfan Hamdden East Sands yn St Andrews, Fife, tua 1 o’r gloch prynhawn ma ac mae pobl wedi cael eu symud o’r safle.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Yr Alban eu bod wedi cael adroddiadau bod pobl yn arddangos symptomau o fod mewn cysylltiad â chemegolion.
Mae 19 o bobl, yn ôl y Gwasanaeth Tân, wedi cael eu trin yn yr ysbyty am broblemau anadlu.
Yn ôl llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans: “Rydym yn ymateb, mewn cydweithrediad gydag amryw o ambiwlansys a thîm ymateb, i adroddiadau bod pobl yn dangos symptomau o fod mewn cysylltiad â chemegolion.”
Dywedodd Gwasanaeth Tân a Diogelwch Yr Alban fod ganddyn nhw dimau dadlygru yn bresennol ar y safle.