Mae dyn 21 wedi cael ei arestio ar amheuaeth o dreisio dynes yn ei 40au yn ystod gŵyl V yn Chelmsford nos Wener.
Cafodd yr heddlu eu hysbysu yn oriau man fore Sul, ac mae’r dyn yn cael ei holi yn y ddalfa.
Roedd y dyn yn un o 42 o bobol a gafodd eu harestio gan Heddlu Swydd Essex yn y digwyddiad ym mharc Hylands.
Roedd y troseddau eraill yn ymwneud â chyffuriau, gwerthu tocynnau’n anghyfreithlon a tharfu ar yr heddwch.
Roedd gwaharddiad wedi’i gyflwyno gan Gyngor Swydd Essex ar y defnydd o ocsid nitraidd, neu nwy chwerthin, yn y cyfnod cyn y digwyddiad.
Mae digwyddiad tebyg yn cael ei gynnal yn Swydd Stafford dros y penwythnos.