Usain Bolt yw pencampwr 100 metr y byd am y trydydd tro, yn dilyn ei fuddugoliaeth yn Beijing.

Gorffennodd y rhedwr o Jamaica y ras mewn 9.79 eiliad, ei amser cyflymaf y tymor hwn.

Justin Gatlin, sydd wedi cael dau waharddiad am gymryd cyffuriau yn ystod ei yrfa, oedd yn ail, gan orffen y ras mewn 9.80 eiliad.

Cyn heddiw, roedd Gatlin yn ddi-guro mewn 28 o rasys.

Trayvon Bromell o’r Unol Daleithiau ac Andre de Grasse o Ganada oedd yn gydradd drydydd, gan orffen mewn 9.92 eiliad.