Mae pensiynwr wedi marw wedi iddo ddod dan ymosodiad yn y stryd yn Rotherham.

Fe gafodd Mushin Ahmed, 81, ei anafu’n ddifrifol yn ystod oriau mân ddydd Llun, ac mae dau ddyn o’r dre’ wedi’u cyhuddo o ymosod bwriadol.

Fe fydd Damien Hunt, 29, a Kieran John Rice, 21, yn ymddangos gerbron Llys y Goron Sheffield ddydd Gwener nesa’.

Mae Cyngor Mwslimisia Prydain wedi ymateb i’r newydd am farwolaeth Mushin Ahmed, gan ddweud mai dyma’r diweddara’ mewn “cyfres o ymosodiadau treisgar ar Fwslimiaid”.

Mae dynion 29 oed a 24 oed hefyd wedi’u haretio, ac fe gawson nhw eu rhyddhau ar fechniaeth wrth i ymchwiliadau’r heddlu barhau.