Mae dyn wedi’i arestio yn yr Alban wedi i naw o bobol ifanc orfod gael eu cludo i’r ysbyty ar ol llyncu tabledi ‘pinc’.

Fe gafodd y bechgyn – i gyd yn 16 oed neu’n iau – eu cludo i’r Borders General Hospital yn Melrose ar ôl cymryd y tabledi. Mae’r llanciau i gyd yn dod o Hawick, ac mae nifer ohonyn nhw’n dal i fod yn yr ysbyty, dan oruchwyliaeth.

Mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau fod dyn 19 oed o Hawick wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r mater. Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Siryf Jedburgh ddydd Llun.

Yn y cyfamser, mae’r heddlu wedi cyhoeddi rhybudd: “Os oes unrhyw un wedi cymryd un o’r tabledi pinc yma, ac yn teimlo’n sâl, neu os ydych yn gwybod am rywun yn y sefyllfa honno, gwnewch yn siwr eich bod yn mynd i weld meddyg, cyn gynted â phosib.”