Mae awyren wedi plymio i’r ddaear ger Sioe Awyr Shoreham yng Ngorllewin Sussex, ac mae’r gwasanaethau brys wrth eu gwaith ar safle’r ddamwain ar hyn o bryd.

Y gredu ydi mai Hawker Hunter ydi’r awyren sydd wedi cwympo o’r awyr – awyren un-sedd – a’i bod wedi taro’r ddaear ar briffordd yr A27, ac wedi taro ceir wrth wneud.

Mae Sioe Awyr Shoreham wedi trydar neges: “Mae yna ddamwain fawr wedi bod y tu allan i derfynau cae’r sioe. Mae’r gwasanaethau brys yn ymateb. Mwy o fanylion i ddilyn.”