Fe fydd dyn o ogledd Cymru’n ymddangos gerbron llys ddydd Iau nesa’, wedi’i gyhuddo o fygwth lladd nifer o blismyn.
Mae Craig Michael Hughes, 33, o Fflint wedi’i gyhuddo o wneud y bygythiadau mewn sgwrs gyda llinell gymorth yn yr Unol Daleithiau.
Fe gysylltodd canolfan argyfwng yr Hope Line â Heddlu Gogledd Cymru, wedi’r alwad, oherwydd eu bod yn pryderu y gallai Craig Michael Hughes fod yn cynllunio lladd ei hun mewn digwyddiad a fyddai hefyd yn lladd neu’n gwneud niwed i heddweision.
Heddiw, mewn sesiwn arbennig o flaen ynadon, roedd yn wynebu dau gyhuddiad o fygwth lladd aelodau o’r heddlu. Ni phlediodd yn euog nac yn ddieuog i’r cyhuddiadau heddiw, ond fe fydd yn ymddangos eto gerbron ynadon ddydd Iau, Awst 27.
Mae Craig Michael Hughes yn honni ei fod yn feddw adeg gwneud y galwadau, ac na fyddai, yn sobor, yn gwneud niwed iddo’i hun nac i unrhyw aelod o’r heddlu. Er hynny, ac er mwyn ei ddiogelwch ei hun a diogelwch yr heddlu, mae’n cael ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesa’ yn y llys.