Cafodd trên yn cario llwyth ei stopio wrth geg twnnel y Sianel yn Ffrainc gan swyddogion ble cafodd ei archwilio am ffoaduriaid.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cwmni Eurotunnel: “Roedd amheuaeth fod ffoaduriaid yn cuddio ar y trên ac fe fu’n rhaid ei stopio a’i chwilio.”

Nid oedd y llefarydd yn fodlon dweud faint o ffoaduriaid oedd ar y trên, ond fe ddywedodd fod mwy nag un.

Deellir fod y trên bellach wedi cael ei symud o’r twnnel, ond fe achosodd oedi i deithwyr ar y ddwy ochr i’r Sianel.