Mae deiseb wedi ei lansio i achub adeilad hanesyddol Clwb y Rheilffordd ym Mangor, sydd mewn peryg o gael ei ddymchwel er mwyn codi fflatiau i fyfyrwyr.

Yn adnabyddus fel lleoliad i ddegau o gigs Cymraeg dros y blynyddoedd, mae’r clwb yn destun deiseb yn galw ar Gyngor Gwynedd i roi amodau ar unrhyw ganiatâd cynllunio a fyddai’n golygu cadw wyneb gwreiddiol yr adeilad, gan gyfyngu ar unrhyw waith adnewyddu i’r tu fewn yn unig.

Cafodd y clwb ei werthu gan yr aelodau i berchnogion newydd Kingcrown Properties Ltd. o Stockport, gyda’r cynlluniau wedi mynd gerbron Cyngor Gwynedd i’w droi yn fflatiau.