Jeremy Corbyn
Mae’r ffefryn am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi dweud y byddai’n ymddiheuro’n ffurfiol ar ran ei blaid am arwain gwledydd Prydain i Ryfel Irac.

Gwrthwynebodd Jeremy Corbyn y rhyfel ar y pryd, gan ddweud bod y Prif Weinidog Tony Blair wedi arwain Prydain i ryfel “yn seiliedig ar dwyll”.

Mae wedi honni hefyd fod penderfyniad Blair i gefnogi arlywydd yr Unol Daleithau, George W Bush bryd hynny wedi costio miliynau o bleidleisiau i’r Blaid Lafur.

Mewn datganiad ym mhapur newydd y Guardian, fe ddywedodd Jeremy Corbyn ei body n “hen bryd” i’r blaid ymddiheuro i bobol gwledydd Prydain ac Irac.