Jeremy Hardy (o'i wefan)
Mae rhai o benaethiaid y Blaid Lafur yn cael eu cyhuddo o geisio ystumio rheolau etholiad yr arweinyddiaeth er mwyn atal yr ymgeisydd asgell chwith Jeremy Corbyn rhag ennill.

Mae digrifwr amlwg a chyn-aelod seneddol ymhlith y rhai sy’n honni bod cefnogwyr i Corbyn yn cael eu rhwystro rhag pleidleisio.

Fe ddywedodd y digrifwr Jeremy Hardy wrth y BBC ei fod ef wedi’i atal, er ei fod wedi pleidleisio tros Lafur yn y gorffennol.

Mae’n un o ddegau o filoedd sydd wedi talu £3 er mwyn cofrestru i bleidleisio.

‘Tir simsan’

Ac, yn ôl y cyn-AS Andrew McKinley, fe fyddai’r Blaid Lafur ar dir “simsan iawn” pebaen nhw’n defnyddio cofnodion canfasio i atal pobol rhag pleidleisio.

Fyddai’r drafodaeth ddim yn digwydd, meddai, pe bai un o’r ymgeiswyr mwy asgell dde ar y blaen.

Ond, yn ôl Jeremy Hardy, roedd hi’n bosib bod penaethiaid y blaid eisiau i bobol eu herio’n gyfreithiol er mwyn cael esgus i ohirio’r etholiad.

Mae’n cydnabod ei fod wedi pleidleisio i’r AS Gwyrdd, Caroline Lucas, yn yr etholiad diwetha’ ond gan fynnu bod hynny oherwydd ei bod hi’n fwy o ddemocrat sosialaidd na llawer o ASau Llafur.