Sylw i'r stori yn yr Argus
Mae’r BBC wedi ailadrodd honiadau bod yr awdurdodau wedi cael clywed am honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn prifathro o dde Cymru.

Maen nhw’n dweud bod saith o bobol wedi gwneud cwynion yn erbyn Jon Styler, prifathro Ysgol Eglwys Malpas yng Nghasnewydd a bod yr Eglwys, Cyngor Sir Gwent ac undeb athrawon wedi cael clywed am hynny.

Fe laddodd Jon Styler ei hun yn 2007 yn 65 oed ar ôl i honiadau gael eu gwneud yn ei erbyn, er ei fod ef wedi eu gwadu mewn llythyr.

Honiadau

Papur lleol y South Wales Argus oedd y cynta’ i gyhoeddi’r honiadau yn erbyn y prifathro a oedd wedi ei benodi’n bennaeth yr ysgol yn 1972.

Mae cwmni cyfreithwyr Collingbourne Hennah yn cynrychioli nifer o bobol sydd, medden nhw, wedi gwneud cwynion.

Adeg ei farwolaeth, roedd yr AS lleol Paul Flynn wedi canmol Jon Styler a dweud ei fod wedi cael “gyrfa ddisglair”.