Michael Campbell
Bydd milwr a fu farw dair blynedd ar ôl iddo gael ei anafu yn Afghanistan yn cael ei gladdu heddiw.

Bu farw y milwr wrth gefn, yr Is-gorporal Michael Campbell o Fae Colwyn, fis diwethaf, yn dilyn llawdriniaeth yn Birmingham.

Cafodd Michael Campbell ei saethu yn ei glun mewn brwydr ym mis Ebrill 2012 ond, er gwaetha’i anaf, fe ddaliodd ati i ymladd ac achub un o’i gyd-filwyr.

Symud

Cafodd ei symud yn gyntaf  i Wersyll Bastion ac ymlaen i Ysbyty y Frenhines Elizabeth yn Birmingham ble y cafodd gyfnod dwys o driniaeth.

Fe fu Michael Campbell farw mewn llawdriniaeth ar gyfer hernia.

Fe fydd yr angladd milwrol yn cael ei gynnal yn Eglwys St Paul ym Mae Colwyn dan arweiniad y Parch Christine Owen, a’I chynorthwyo gan Padre Steven Whiting o’r fyddin.