Map sy'n dilyn taith 'Thomas'
Fe allai robotiaid ymchwil arloesol sydd wedi cael eu lansio ger glannau Cymru arwain at ddarganfod llawer rhagor am fywyd y môr ac at warchod y ‘Dyfnfor Celtaidd’.

Fe gafodd y robot C-Enduro o’r enw Thomas ei ollwng ar y môr yn Aberdaugleddau ddoe ac fe fydd yn treulio’r mis nesa’ yn ymchwilio i’r dyfroedd gwerthfawr tua 50 milltir i’r de-orllewin o Sir Benfro.

Fe fydd Thomas yn morio ar wyneb y dŵr ac yn cwrdd â gleider robotaidd a fydd yn ymchwilio o dan yr wyneb – fe fyddan nhw’n mesur pa mor gynnes a hallt yw’r dŵr, yn dod o hyd i wahanol fathau o fywyd gwyllt a hefyd sbwriel sydd yn y môr.

Maen nhw’n cael eu rheoli o bell trwy loeren ac yn cael eu pweru’n rhannol gan y gwynt a’r haul.

Arloesol iawn

Yn ôl trefnwyr yr ymchwil, y Ganolfan Oceeanograffeg Genedlaethol ac elusen fywyd gwyllt y WWF, mae’r dechnoleg yn arloesol iawn ac fe allai drawsnewid y gwaith o ddysgu rhagor am y moroedd.

Mae’n ffordd rad, medden nhw, o ymchwilio i’r amgylchiadau dan y dŵr gan ddod o hyd i dystiolaeth a allai helpu i ddynodi ardaloedd gwarchod newydd.

Fe allai hynny gynnwys y Dyfnfor Celtaidd, sydd heb ei warchod, er fod yno gyfoeth o fywyd gwyllt gan gynnwys y morfil asgellog, yr ail anifail mwya’ yn y byd.

Yn ôl y WWF, fe allai’r dechnoleg hefyd helpu gwledydd sy’n datblygu i warchod eu dyfroedd nhwthau.

‘Angen mwy o warchod’

“Yn ogystal â bod yn gartref i amrywiaeth rhyfeddol o anifeiliaid a phlanhigion, mae ein moroedd yn darparu adnoddau holl bwysig, fel bwyd ac ynni,” meddai Dr Lyndsey Dodds o’r WWF.

“Ond mae ein moroedd dan bwysau cynyddol ac mae angen mwy o warchodaeth arnyn nhw.

“Trwy ddefnyddio technoleg arloesol fel y cerbydau yma, gallwn ddysgu mwy am y bywyd sydd ger ein glannau a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei warchod.”