Stadiwm y Mileniwm - cynnal wyth o gemau
Fe allai economi Caerdydd gael hwb gwerth hyd at £75m yn yr hydref wrth iddi gynnal wyth o gêmau Cwpan Rygbi’r Byd, yn ôl ymchwil gan gwmni sydd yn cymharu costau trafnidiaeth.

Yn ôl GoEuro fe allai’r incwm sy’n dod gan ymwelwyr â Phrydain yn ystod y gystadleuaeth fod yn gymaint â £950m gan gynnwys gwario ar lety, bwyd a diod a thrafnidiaeth.

Llundain sydd yn debygol o elwa fwyaf, gyda’r ymchwil yn amcangyfrif y gallai’r ddinas ennil at £200m wrth gynnal 17 o gêmau’r gystadleuaeth.

Cafodd y ffigyrau eu cyfrif gan ddefnyddio indecs prisiau GoEuro yn ogystal â chyfartaleddau gwario twristiaid o wahanol wledydd.

‘Digwyddiad mwya’ ers Llundain 2012’

Yn ôl y cymni dyma fydd y digwyddiad twristaidd mwyaf ym Mhrydain ers Gêmau Olympaidd 2012.

Maen nhw’n disgwyl y bydd £43m yn cael ei wario ar lety yng Nghaerdydd yn ystod y bencampwriaeth, gydag £16.5m yn cael ei wario ar fwyd a diod, £11m yn mynd ar nwyddau a chostau eraill, a £3.5m ar drafnidiaeth.

Fe fydd wyth gêm yn cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm yn ystod y gystadleuaeth, gan gynnwys gêmau grŵp Cymru yn erbyn Uruguay a Fiji a dau o gemau rownd yr wyth olaf.

Yn ôl GoEuro mae disgwyl y bydd 440,000 o ymwelwyr tramor yn dod i wledydd Prydain yn ystod Cwpan y Byd, gyda mwy na dwy filiwn o Brydeinwyr hefyd yn teithio i wylio gêmau.