Mae’r achos yn erbyn dau lanc sydd wedi’u cyhuddo o fod â rhan mewn ymosodiad stryd sydd wedi gadael cefnogwr pel-droed mewn coma, wedi’i ohirio.

Doedd yr un o’r bechgyn, 14 a 15 oed, yn bresennol yn Llys Ieuenctid Wolverhampton heddiw ar gyfer y gwrandawiad byr.

Mae’r bachgen 15 oed wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i Nic Cruwys, cefnogwr Watford, yn Wolverhampton ar Fawrth 7 eleni.

Mae Heddlu’r West Midlands wedi cyhuddo’r bachgen 14 oed o anafu Mr Cruwys gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Mae’r ddau lanc wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron llys ynadon Wolverhampton ar Fedi 18 ynghyd â dynion eraill sydd wedi’u cyhuddo o niweidio.