Mae adolygiad annibynnol o’r ffordd wnaeth yr Eglwys Gatholig yn yr Alban ddelio gyda honiadau o gam-drin, wedi cyhoeddi argymhellion i wella safonau diogelu.

Canolbwyntiodd yr ymchwiliad allanol, a gafodd ei arwain gan Y Tra Pharchedig Andrew McLellan ar bolisïau ac arferion yr eglwys yn ogystal â gwerthuso’r gweithdrefnau sydd ar waith i amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed, ac i sicrhau fod yr eglwys yw “lle diogel i bawb”.

Cyhoeddodd Andrew McLellan wyth o argymhellion yng Nghaeredin.

Y rhain yw:

·         Y flaenoriaeth yw rhoi cymorth i bobl sydd wedi dioddef camdriniaeth.

·         Mae angen ail-ysgrifennu a diwygio polisi ac ymarferion “Ymwybyddiaeth a Diogelwch yn ein Cymunedau Catholig” yn gyfan gwbl.

·         Rhaid bod craffu allanol ac annibynnol yn rhan o’r polisïau hyn.

·         Rhaid mesur effeithiolrwydd gwelliannau diogelu’r Eglwys.

·         Mae angen agwedd gyson tuag at ddiogelu ar draws gwahanol rannau o’r Alban ac ar draws yr Eglwys.

·         Rhaid gweld bod cyfiawnder yn cael ei weinyddu, a bod hyn yn weladwy, i’r rhai sydd wedi cael eu cam-drin yn ogystal â’r rhai sydd wedi eu cyhuddo.

·         Bydd rhaid i bawb sy’n ymwneud â diogelu ar bob lefel dderbyn hyfforddiant cyson o’r ansawdd uchaf fel rhan o’u datblygiad proffesiynol.

·         Mae’n rhaid i’r Eglwys esbonio’r rhesymeg tu ôl diogelu sy’n gyson â’u diwinyddiaeth.

Ymddiheuro

Yn dilyn cyhoeddi’r argymhellion mae’r Archesgob Philip Tartaglia, wedi cynnig “ymddiheuriad dwys” i’r holl rhai cafodd eu cam-drin tu fewn i’r Eglwys Gatholig yn yr Alban.

Cafodd y comisiwn ei sefydlu ym mis Tachwedd 2013 mewn ymateb i gyfres o sgandalau – gan gynnwys ymddiswyddiad Cardinal Keith O’Brien yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol.

Fel rhan o’i waith, clywodd y comisiwn gan ddioddefwyr cam-drin, ond nid yw ei gylch gwaith yn ymestyn i ymchwilio neu ddyfarnu ar honiadau presennol neu hanesyddol.

Bydd adolygiad o’r holl achosion o honiadau o gam-drin hanesyddol rhwng 1947 a 2005 yn cael eu cyhoeddi maes o law.