Y ddiweddar Smaeena Imam
Mae’r rheithgor yn achos llofruddiaeth dynes oedd yn byw yng Nghaerdydd wedi clywed bod ei llofrudd wedi ei lladd ar Noswyl Nadolig, gyda chymorth ei frawd.

Mae Roger Cooper, 41, wedi ei gyhuddo o ladd un o’i dair cariad, Sameena Imam ar ôl iddi roi cynnig terfynnol iddo adael ei bartner hirdymor.

Mae’r erlyniad yn honni fod rheolwr warws Costco yn Coventry yn credu y byddai’n cael ei ddiarddel o’r gwaith petai Sameena Imam, rheolwr marchnata’r siop, yn datgelu’r berthynas.

Mae Roger Cooper o flaen ei well y ochr yn ochr â’i frawd David Cooper, 38. Mae’r ddau ddyn yn gwadu llofruddiaeth.

Yn y llys 

Dywedwyd wrth y rheithgor yn Llys y Goron Birmingham y bydd Roger Cooper yn honni ei fod wedi teithio i Gaerlŷr ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw i nôl ffigwr Star Wars fel anrheg i’w frawd.

Ond mae’r erlyniad yn dweud fod ganddo reswm gwahanol i wneud y daith, sef llofruddio Sameena Imam.

Mae lluniau camerâu diogelwch a gafodd eu chwarae i’r rheithgor yn dangos Sameena Imam a Roger Cooper yn gadael cangen Coventry o Costco o fewn munudau i’w gilydd am tua 4 y prynhawn ar 24 Rhagfyr y llynedd.

Mae’r Goron yn honni fod Sameena Imam wedi gadael ei BMW yn yr ardal cyn cael ei gyrru i Gaerlŷr. Yn ôl yr erlyniad, roedd wedi cael ei lladd ychydig oriau’n ddiweddarach.

Ar adeg marwolaeth Sameena Imam, clywodd y llys fod Roger Cooper hefyd yn cael perthynas gyda dwy ferch arall – ei bartner Susan Potts a cydweithiwr arall o Costco, Sinead Sweeney.

Cysylltodd teulu Sameena Imam, oedd yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i Costco yn Coventry, Southampton, Bryste a Chaerdydd, â’r Ŵyl San Steffan wedi iddi fethu mynychu digwyddiad teulu yn Essex.

Mae’r achos yn parhau.