Desmond Tutu
Mae’r cyn-Archesgob Desmond Tutu wedi’i gludo i’r ysbyty yn Ne Affrica, a hynny am y trydydd tro o fewn y misoedd diwetha’.

Mae ei ferch, Mpho Tutu, wedi cadarnhau fod ei thad wedi mynd i mewn neithiwr a’i fod yn cael ei drin am lid, ond ei fod yn llid gwahanol i’r un y cafodd driniaeth ato yn gynharach eleni. Ychwanegodd ei bod yn gobeithio gweld ei thad yn dod adref o fewn ychydig ddyddiau.

Roedd Mr Tutu, 83, wedi’i gymryd i’r ysbyty ar Orffennaf 28, ac roedd wedi treulio wythnos i mewn yn gynharach y mis hwnnw.

Mae wedi bod yn derbyn triniaeth at ganser y prostad ers rhai blynyddoedd.