Cardinal Keith O'Brien, Eglwys Gatholig yr Alban
Bydd canfyddiadau adolygiad annibynnol o’r ffordd wnaeth yr Eglwys Gatholig yn yr Alban ddelio gyda honiadau o gam-drin yn cael eu cyhoeddi heddiw.

Mae’r ymchwiliad allanol, a gafodd ei arwain gan Y Tra Pharchedig Andrew McLellan, wedi canolbwyntio ar bolisïau ac arferion yr eglwys yn ogystal â gwerthuso’r gweithdrefnau sydd ar waith i amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed, ac i sicrhau fod yr eglwys yw “lle diogel i bawb”.

Bydd Andrew McLellan yn cyhoeddi ei ganfyddiadau a’i argymhellion mewn cynhadledd i’r wasg yng Nghaeredin heddiw.

Cefndir y Comisiwn 

Cafodd y comisiwn ei sefydlu ym mis Tachwedd 2013 mewn ymateb i gyfres o sgandalau – gan gynnwys ymddiswyddiad Cardinal Keith O’Brien yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol.

Fel rhan o’i waith, clywodd y comisiwn gan ddioddefwyr cam-drin, ond nid yw ei gylch gwaith yn ymestyn i ymchwilio neu ddyfarnu ar honiadau presennol neu hanesyddol.

Mae cyfanswm o 46 o gyhuddiadau wedi eu gwneud, gyda 55% yn ymwneud â cham-drin rhyw, 19% yn ymwneud â gam-drin corfforol, 11% yn honiadau o gam-drin geiriol a 15% mewn cysylltiad â cham-drin emosiynol.

Ni fu unrhyw erlyniadau mewn perthynas â 61% o’r holl achosion, dywedodd yr eglwys.

Mae hefyd yn cyhoeddi y bydd adolygiad o’r holl achosion o honiadau o gam-drin hanesyddol rhwng 1947 a 2005 yn cael eu cyhoeddi maes o law.