Cafodd awyren o Indonesia, aeth ar goll am ddau ddiwrnod, ei dinistrio’n llwyr pan blymiodd i mewn i fynydd gan ladd pob un o’r 54 o bobl ar ei bwrdd.

Cyrhaeddodd 70 o achubwyr safle’r ddamwain heddiw ar ôl cael eu rhwystro gan dir coediog a thywydd garw.

Mae recordydd data a blwch du’r awyren wedi cael eu ddarganfod mewn cyflwr da.

Mae pob un o’r 54 o gyrff wedi cael eu darganfod a byddant yn cael eu cludo i Jayapura, prifddinas talaith Papua, er mwyn cael eu hadnabod.

Roedd yr awyren yn hedfan o Jayapura i ddinas Oksibil, gyda 49 o deithwyr a phum aelod o griw ar ei bwrdd, ar daith 42 munud o hyd pan gollwyd cysylltiad a hi ddydd Sul.

Nid yw’n glir beth achosodd y achosodd y ddamwain eto ond mae’r awdurdodau yn Indonesia wedi agor ymchwiliad.

Er hynny, mae cwmni oedd yn rhedeg y gwasanaeth, Trigana Air Service, wedi cael ei gwahardd rhag hedfan yn Ewrop oherwydd record diogelwch gwael.

Mae’r cwmni wedi cael 19 digwyddiad difrifol ers 1992, gan arwain at golli wyth awyren a difrod sylweddol i 11 o awyrennau eraill, yn ôl cronfa ddata ar-lein y Rhwydwaith Diogelwch Hedfan.