Mae gwobr o £20,000 yn cael ei chynnig i unrhywun sy’n fodlon dod yn eu blaenau i gynnig gwybodaeth i’r heddlu am “unigolyn treisgar iawn” a berodd i wraig feichiog golli ei babi.

Roedd Malorie Bantala, 21, wedi cario ei babi am wyth mis pan ddaeth dau ddyn yn gwisgo helmedau motorbeic ac ymosod arni yn Peckham yn ne-ddwyrain Llundain, ym mis Mehefin eleni.

Mae dyn 20 oed, sydd wedi’i adnabod fel tad babi Malorie Bantala, wedi’i gyhuddo eisoes o ddifa plentyn ac o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol. Mae disgwyl i Kevin Wilson ymddangos yn gerbron llys ar Dachwedd 30.