Bydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y cyfarfod heddiw i drafod dyfodol gwasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru.

Yn y cyfarfod, bydd aelodau’r bwrdd yn trafod os ydyn nhw am gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun i is-raddio unedau ysbytai Glan Clwyd, Gwynedd neu Faelor Wrecsam.

Bwriad y bwrdd iechyd ar hyn o bryd yw is-raddio’r uned yng Nglan Clwyd, Bodelwyddan fel mai bydwragedd sy’n ei harwain yn hytrach na meddygon.

Bydd achosion mwy arbenigol wedyn yn cael eu dargyfeirio i Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu i Ysbyty Maelor Wrecsam.

Ond mae’r pellter y byddai’n rhaid i rai cleifion deithio’n peri gofid i nifer o wrthwynebwyr y cynlluniau.

Roedd y bwrdd iechyd wedi bwriadu herio adolygiad barnwrol yn erbyn y cynlluniau, ond maen nhw nawr am ddechrau ymgynghori eto ar ddyfodol y gwasanaethau.

Roedd ymgyrchwyr sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau wedi dadlau y byddai cau’r uned famolaeth yn peryglu bywydau darpar famau a’u babis.

Un o’r opsiynau sydd ar gael i’r bwrdd iechyd ddydd Mawrth yw cynnal y gwasanaethau presennol, ond mae prif weithredwr dros dro y Bwrdd Iechyd, Simon Dean, wedi rhybuddio y byddai hynny’n peryglu diogelwch cleifion.