Mijas, Costa del Sol
Mae bachgen bach o wledydd Prydain wedi boddi mewn pwll nofio mewn cyrchfan wyliau yn Sbaen.

Mae’r awdurdodau’n lleol wedi cadarnhau fod y plentyn 4 blwydd oed wedi marw tua 9yh nos Sadwrn mewn ty yn Mijas ar y Costa del Sol.

Mae’r datganiad hefyd yn dweud fod 20 o bobol yn y cyfeiriad hwnnw pan fu farw’r plentyn.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw, ond doedd hi ddim yn bosib achub y plentyn.