Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio, wedi i ddyn ymosod ar ddynes ym Mhenarth, cyn dwyn ei char.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Windsor Terrace ym Mhenarth tua 6.30yp ddydd Sadwrn, wedi i gar BMW y ddynes gael ei ddwyn.

Fe fu’r cerbyd mewn gwrthdrawiad gyda char arall, gan anafu dynes arall.

Yn ôl adroddiadau, fe adawodd safle’r ddamwain mewn car Volkswagen gwyn.

Mewn datganiad, mae Heddlu De Cymru yn dweud fod y dyn y maen nhw’n chwilio amdano tua 6 throedfedd 2 fodfedd o daldra, efo ffrâm lydan, gwallt brown, byr. Roedd yn gwisgo crys sgwarog o liw gwyrdd ddydd Sadwrn, o dan siwper wlân o liw glas.